1 Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i'n dilyn esiampl y Meseia.
2 Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!
3 Ond rhaid i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o'r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o'r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu.
4 Mae pob dyn sy'n gweddïo neu'n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch.
5 Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.