16 Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.
17 Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.
18 Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.
19 “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?
20 Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd!
21 Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!
22 Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!