20 Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd!
21 Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!
22 Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!
23 Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.
24 Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
25 Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”
26 Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.