30 Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pam mae rhai hyd yn oed wedi marw.
31 Petaen ni'n gwylio'n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu.
32 Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd.
33 Felly pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd.
34 Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn.Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi.