1 Nawr, wrth droi at beth sy'n dod o'r Ysbryd, dw i eisiau i chi ddeall ffrindiau.
2 Pan roeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud.
3 Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond trwy'r Ysbryd Glân.
4 Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un.
5 Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd.
6 Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd.