16 Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na!
17 Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A petai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli?
18 Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel oedd e'n gweld yn dda.
19 Petai pob rhan o'r corff yr un fath â'i gilydd, fyddai'r corff ddim yn bod!
20 Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff.
21 Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!”
22 Yn hollol fel arall – mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol!