2 Pan roeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud.
3 Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond trwy'r Ysbryd Glân.
4 Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un.
5 Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd.
6 Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd.
7 Ac mae'r Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall.
8 Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd.