25 Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd.
26 Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd.
27 Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw.
28 Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr.
29 Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau?
30 Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy'n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim!
31 Ond ceisiwch yn frwd y doniau hynny sy'n gwneud mwya o les.A dw i am ddangos y ffordd orau un i chi.