8 Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd.
9 Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd.
10 Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny.
11 Yr un Ysbryd sydd ar waith trwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un.
12 Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia.
13 Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd.
14 Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau.