1 Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo.
2 Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd.
3 Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw.
4 Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys.