13 Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud.
14 Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
15 Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd.
16 Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud!
17 Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall.
18 Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw.
19 Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.