30 Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi.
31 Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.
32 Mae ysbryd y proffwydi dan reolaeth y proffwydi.
33 Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.
34 “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud.
35 Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”
36 Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl y mae neges Duw wedi dod atyn nhw?