37 Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw.
38 Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain!
39 Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr.
40 Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy'n weddus ac yn drefnus.