1 Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau eich atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi.
2 Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud.
3 Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.
4 Yna ei fod wedi ei gladdu, a'i fod wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud.
5 Wedyn bod Pedr wedi ei weld, a'r deuddeg disgybl.
6 Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw.