18 Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd.
19 Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!
20 Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi.
21 Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd.
22 Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd.
23 Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.
24 Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus.