21 Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd.
22 Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd.
23 Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.
24 Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus.
25 Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed.
26 A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.
27 Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” – ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf!