27 Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” – ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf!
28 Ar ôl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.
29 Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr.
30 A beth amdanon ni! Pam dŷn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg?
31 Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau – mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi.
32 Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni'n marw fory!”
33 Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”