31 Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau – mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi.
32 Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni'n marw fory!”
33 Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
34 Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi'n gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chi'n gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
35 Ond wedyn dw i'n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae'r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?”
36 Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy'n cael ei hau yn y ddaear farw.
37 A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth – gwenith falle, neu rywbeth arall.