4 Yna ei fod wedi ei gladdu, a'i fod wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud.
5 Wedyn bod Pedr wedi ei weld, a'r deuddeg disgybl.
6 Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw.
7 Yna gwelodd Iago fe, a'i gynrychiolwyr eraill i gyd.
8 Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol.
9 Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.
10 Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi.