41 Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae'r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a'r llall.
42 Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw'n atgyfodi. Mae'r corff sy'n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod.
43 Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!
44 Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol.
45 Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill.
46 Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn.
47 Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd.