43 Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!
44 Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol.
45 Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill.
46 Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn.
47 Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd.
48 Mae gan pob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia.
49 Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd.