45 Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill.
46 Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn.
47 Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd.
48 Mae gan pob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia.
49 Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd.
50 Dyma dw i'n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl – all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy'n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod.
51 Gwrandwch – dw i'n rhannu rhywbeth sy'n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid –