53 Rhaid i ni, sydd â chorff sy'n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy'n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb!
54 Pan fydd hynny'n digwydd, bydd beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi ei lyncu yn y fuddugoliaeth.”
55 “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?”
56 Pechod ydy'r pigiad gwenwynig sy'n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o'r Gyfraith.
57 Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!
58 Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i'r Arglwydd ddim yn wastraff amser.