8 Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol.
9 Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.
10 Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi.
11 Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy'n gwneud y cyhoeddi – dyma'r neges sy'n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi ei gredu.
12 Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi?
13 Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith.
14 Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!