7 Na, dirgelwch gan Dduw ydy'r doethineb dŷn ni'n sôn amdano. Roedd wedi ei guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi ei drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi ei gadw i ni gael rhannu ei ysblander trwyddo.
8 Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.
9 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”
10 Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni – ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!
11 Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.
12 A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.
13 A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd.