1 Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol.
2 Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod!
3 Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl.
4 Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
5 Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni.