19 Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”
20 a hefyd, “Mae'r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.”
21 Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi –
22 Paul, Apolos, Pedr, y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd!
23 A dych chi'n eiddo i'r Meseia, a'r Meseia i Dduw.