4 Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
5 Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni.
6 Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni!
7 Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant.
8 Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain.
9 Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi ei roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad –
10 fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,