1 Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia – gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw.
2 Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon.
3 Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed!
4 Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri.
5 Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw.