1 Corinthiaid 4:4-10 BNET

4 Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri.

5 Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw.

6 Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn.

7 Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!

8 Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi.

9 Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion.

10 Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!