9 Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion.
10 Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!
11 Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi.
12 Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni.
13 Dŷn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw!
14 Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi!
15 Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi.