2 A dych chi'n dal yn falch ohonoch chi'ch hunain? Dylai'r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi'ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu'r dyn, a'i droi allan o gymdeithas yr eglwys?
3 Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi'r ddedfryd
4 gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddowch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd),
5 taflwch y dyn allan o'r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i'w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl.
6 Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd”? – mae'n effeithio ar bawb!
7 Rhaid cael gwared ohono – ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi ei aberthu droson ni, fel oen y Pasg.
8 Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.