4 gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddowch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd),
5 taflwch y dyn allan o'r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i'w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl.
6 Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd”? – mae'n effeithio ar bawb!
7 Rhaid cael gwared ohono – ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi ei aberthu droson ni, fel oen y Pasg.
8 Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.
9 Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o'r blaen i beidio cael dim i'w wneud gyda phobl sy'n anfoesol yn rhywiol.
10 Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i – sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly!