8 Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.
9 Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o'r blaen i beidio cael dim i'w wneud gyda phobl sy'n anfoesol yn rhywiol.
10 Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i – sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly!
11 Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw ei hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!
12 Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i'r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy'n perthyn i'r eglwys.
13 Duw sydd yn barnu pobl o'r tu allan. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o'ch plith.”