1 Nawr, gadewch i ni droi at y cwestiynau oedd yn eich llythyr chi: “Mae'n beth da i ddyn beidio cael rhyw o gwbl,” meddech chi.
2 Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun.
3 Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda'i wraig, a'r un modd y wraig gyda'i gŵr.
4 Mae'r wraig wedi rhoi'r hawl ar ei chorff i'w gŵr, a'r un modd, mae'r gŵr wedi rhoi'r hawl ar ei gorff yntau i'w wraig.