13 Neu fel arall, os oes gan wraig ŵr sydd ddim yn credu, ond sy'n dal yn fodlon byw gyda hi, ddylai hithau ddim ei adael e.
14 Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â'i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â'i gŵr sy'n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi'n ‛aflan‛, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân.
15 (Ond wedyn, os ydy'r gŵr neu'r wraig sydd ddim yn credu yn mynnu gadael y berthynas, gadewch iddyn nhw fynd. Dydy'r partner sy'n Gristion ddim yn gaeth mewn achos felly. Mae Duw am i ni fyw mewn heddwch).
16 Dwyt ti ddim yn gwybod, wraig, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy ŵr! Neu ti'r gŵr, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy wraig!
17 Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae'r Arglwydd wedi'ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu. Mae hon yn rheol dw i'n ei rhoi i bob un o'r eglwysi.
18 Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod trwy'r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy'r ddefod nawr.
19 Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.