19 Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
20 Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu.
21 Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi.
22 Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia!
23 Mae pris uchel wedi ei dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl.
24 Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu.
25 I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!):