2 Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun.
3 Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda'i wraig, a'r un modd y wraig gyda'i gŵr.
4 Mae'r wraig wedi rhoi'r hawl ar ei chorff i'w gŵr, a'r un modd, mae'r gŵr wedi rhoi'r hawl ar ei gorff yntau i'w wraig.
5 Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda'ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio'ch chwantau i'ch temtio chi.
6 Ond awgrym ydy hynny, dim gorchymyn.
7 Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a'r gallu i fyw'n sengl yn rhodd i eraill.
8 Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud.