23 Mae pris uchel wedi ei dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl.
24 Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu.
25 I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!):
26 Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi.
27 Os wyt ti wedi dyweddïo gyda merch, paid ceisio datod y cwlwm. Os wyt ti'n rhydd, paid ag edrych am wraig.
28 Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny.
29 Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;