28 Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny.
29 Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;
30 dim y galar na'r llawenydd ddaw i'n rhan; dim prynu pethau, wedi'r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw!
31 Waeth heb ag ymgolli yn y petheuach sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben!
32 Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio.
33 Ond rhaid i'r dyn priod feddwl am bethau eraill bywyd – sut i blesio'i wraig –
34 ac mae'n cael ei dynnu'r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i'w wasanaethu e. Ond mae'n rhaid i wraig briod feddwl am bethau'r byd – sut i blesio'i gŵr.