37 Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi – ac yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau – mae yntau'n gwneud y peth iawn.
38 Felly mae'r un sy'n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy'n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell.
39 Mae gwraig ynghlwm i'w gŵr tra mae ei gŵr yn dal yn fyw. Ond os ydy'r gŵr yn marw, mae'r wraig yn rhydd i briodi dyn arall, cyn belled â'i fod yn Gristion.
40 Ond yn fy marn i byddai'n well iddi aros fel y mae – a dw i'n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth.