6 Ond awgrym ydy hynny, dim gorchymyn.
7 Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a'r gallu i fyw'n sengl yn rhodd i eraill.
8 Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud.
9 Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau.
10 I'r rhai sy'n briod dyma dw i'n ei orchymyn (yr Arglwydd ddwedodd hyn, dim fi): Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr.
11 Ond os ydy hi eisoes wedi ei adael mae dau ddewis ganddi. Gall hi aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr. A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith.
12 Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i'n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy'n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai'r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig.