1 I droi at eich cwestiwn am gig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.
2 Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.
3 Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.
4 Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”
5 Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill),