8 “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith.
9 Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.
10 Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau?
11 Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw!
12 Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia.
13 Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.