4 Mae gynnon ni hawl i fwyta ac yfed siŵr o fod?
5 Oes gynnon ni ddim hawl i briodi a mynd â'n gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni? – dyna mae ei gynrychiolwyr personol eraill, a brodyr yr Arglwydd a Pedr yn ei wneud.
6 Neu ai fi a Barnabas ydy'r unig rai sy'n gorfod gweithio am eu bywoliaeth?
7 Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth?
8 A peidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth?
9 Ydy, mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” Ai dim ond poeni am ychen mae Duw?
10 Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e – dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd!