8 A peidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth?
9 Ydy, mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” Ai dim ond poeni am ychen mae Duw?
10 Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e – dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd!
11 Felly os wnaethon ni hau hadau ysbrydol yn eich plith chi, ydyn ni'n gofyn gormod i ddisgwyl cael peth ffrwyth materol gynnoch chi?
12 Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia.
13 Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor?
14 Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.