1 Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd.At eglwys Dduw yn Corinth, a'r holl Gristnogion sydd yn nhalaith Achaia:
2 Dŷn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
3 Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro.
4 Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni.