2 Corinthiaid 13 BNET

Rhybuddion olaf

1 Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.”

2 Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa!

3 Wedi'r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e'n delio gyda chi – mae'n gweithio'n nerthol yn eich plith chi!

4 Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e – a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi.

5 Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? – os na, dych chi wedi methu'r prawf.

6 Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf.

7 Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu.

8 Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd.

9 Yn wir, dŷn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer.

10 Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol – dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.

Cyfarchion i gloi

11 Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.

12 Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

13 Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a'r rhannu hwnnw mae'r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13