2 Corinthiaid 10 BNET

Paul yn amddiffyn ei weinidogaeth

1 Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun – ie fi, yr un maen nhw'n dweud sy'n ‛llwfr‛ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‛galed‛ pan dw i'n bell i ffwrdd!

2 Pan fydda i'n dod acw, dw i'n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i'n disgwyl gorfod bod gyda'r rhai hynny sy'n dweud ein bod ni'n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu!

3 Dŷn ni'n byw yn y byd yn sicr, ond dŷn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae'r byd yn gwneud.

4 Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau'r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! – mae'n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy'n rhoi'r nerth i ni chwalu'r cestyll mae'r gelyn yn eu hamddiffyn.

5 Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia.

6 Pan fyddwch chi'n ufudd eto, byddwn ni'n barod wedyn i gosbi pawb sy'n aros yn anufudd.

7 Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw.

8 Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi.

9 Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau.

10 Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!”

11 Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni acw, byddwn ni'n gwneud yn union beth mae'n llythyrau yn ei ddweud.

12 Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn.

13 Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi ei roi i ni – ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi!

14 Dŷn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi'r cwbl, ni ddaeth â'r newyddion da am y Meseia atoch chi!

15 Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy.

16 Wedyn byddwn ni'n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi'r newyddion da mewn lleoedd sy'n bellach i ffwrdd na chi. Ond dŷn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi ei wneud!

17 “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud.”

18 Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13