16 Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea.
17 Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa?
18 Nac ydw – mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.
19 A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith – sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!
20 Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw – o achos y cwbl wnaeth e!
21 A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto,
22 ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.